Mae Sherpa'r Wyddfa yn teithio o amgylch sylfaen yr Wyddfa gan stopio mewn gwahanol leoliadau, pob un bellter byr o lwybrau cerdded i'r copa.
Mae defnyddio gwasanaeth bws Sherpa'r Wyddfa yn ffordd wych o deithio o amgylch Eryri ac mae'n cyfrannu at deithio cynaliadwy, yn enwedig yn ystod misoedd prysur yr haf.
Newid yn yr hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf i Barc Cenedlaethol Eryri, felly mae defnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy fel beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fynd i'r afael â'r bygythiad hwn, gan leihau allyriadau carbon.
Er nad yw'n bosibl gadael eich car gartref bob amser, dylech ystyried parcio ymhellach i ffwrdd neu ddefnyddio cyfleusterau parcio a theithio a thrafnidiaeth gyhoeddus fel gwasanaethau bws Sherpa'r Wyddfa neu TrawsCymru i gyrraedd eich cyrchfan.