mannau i ymweld â nhw

criw o 3 o bobl yn heicio drwy Eryri

ewch allan a mwynhau awyr iach y mynydd

Mae Eryri yn ardal ddelfrydol i fynd allan i gerdded a chael awyr iach, gan fwynhau golygfeydd godidog o'r mynyddoedd gogoneddus o'ch cwmpas.

Mae rhwydwaith o deithiau cerdded ar gael i bobl o bob gallu, o deithiau hamddenol ar lan llyn i'r dringfeydd mwy serth ac egnïol sy'n eich arwain i gopa'r Wyddfa neu i un o'r copaon niferus eraill yn y gadwyn.

Mae'n hawdd cyraedd dechrau'r teithiau cerdded hyn ar ein rhwydwaith bysiau, a gallwch ddal bws mewn man arall yn lle eich bod yn gorfod troi'n ôl.

Mae digon o wybodaeth ar gael i'ch helpu i gynllunio ychydig o oriau neu'r diwrnod cyfan yn crwydro Eryri – gan gynnwys lleoliadau parcio a theithio, bysiau a llwybrau cerdded.

Llwythwch ap Llwybrau Yr Wyddfa i lawr neu ewch i Parc Cenedlaethol Eryri.

Amgueddfa Lechi Cymru

Er bod chwarel lechi enfawr Dinorwig wedi cau yn 1969, mae'n adrodd stori arbennig iawn heddiw, sef hanes diwydiant llechi Cymru.

Mae'r stori afaelgar hon yn cwmpasu digwyddiadau mawr fel aflonyddwch diwydiannol yn ogystal â manylion bychain am fywyd bob dydd. Cewch eich croesawu, eich addysgu a'ch diddanu gan y dehongliad llawn dychymyg sy'n dangos y rhan y mae llechi wedi'i chwarae yn hanes Gogledd Cymru ac Eryri.

ewch i wefan yr Amgueddfa Lechi

  • Llanberis
The Slate Museum
Pobl ar drên yn cael amser da.

ewch am dro ar ein trenau bach gwych

Beth am fwynhau golygfeydd godidog o'r mynyddoedd drwy ymlacio ar drên stêm traddodiadol ar reilffordd gul? Mae'r rhan hon o Gymru yn enwog am ei threnau bach.

Mae Rheilffordd Ffestiniog yn mynd â chi o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog.

Rheilffordd Eryri yn mynd â chi o Borthmadog i Gaernarfon.

Mae Rheilffordd yr Wyddfa yn mynd â chi o Lanberis bron i gopa'r Wyddfa, ac mae Rheilffordd Llyn Llanberis yn rhedeg ochr yn ochr â Llyn Padarn.

Mae Rheilffordd yr Wyddfa a Rheilffordd Llyn Llanberis ar gau yn y gaeaf.

Castell Caernarfon

Mae Castell Caernarfon yn sefyll yn falch dros strydoedd cul hyfryd a glannau hardd y dref Gymreig hon, sy'n llawn cymeriad. Adeiladodd Edward I y castell fel palas brenhinol a chaer filwrol yn y 13eg ganrif yng nghanol y dref gaerog ganoloesol ac mae'n dal i danio'r dychymyg yn fwy nag unrhyw un arall o gestyll Cymru.

Dewch i grwydro o amgylch y dref a dod o hyd i fwytai, caffis a siopau arbenigol annibynnol, yn ogystal â chelf a chrefft lleol.

ewch i wefan Castell Caernarfon

Castell Caernarfon
Plas Brondanw

naws yr Eidal ym Mhlas Brondanw

Y styrir mai gerddi Plas Brondanw, cartref Clough Williams-Ellis a adeiladodd bentref Eidalaidd enwog Portmeirion, yw ei greadigaeth bwysicaf.

Creodd Syr Clough dirwedd unigryw ac arbennig, a ysbrydolwyd gan erddi o gyfnod y Dadeni yn yr Eidal. Yma, mae cyfres o olygfeydd rhamantaidd dros gefn gwlad, sy'n arwain y llygad at gefndir dramatig y mynyddoedd y tu hwnt.

10.30am - 3.45pm, Mer-Sul Pasg tan ddiwedd mis Medi

Darganfyddwch fwy ar wefannau Plas Brondanw a Phortmeirion.

  • Plas Brondanw

Betws-y-Coed - y porth i Eryri

M ae naws yr Alpau i'r pentref deniadol hwn, diolch i goed trwchus Coedwig Gwydyr, sy'n ei amgylchynu.

Dewch i ddarganfod siopau annibynnol llawn cymeriad, sy'n gwerthu crefftau, anrhegion, cynnyrch lleol ac, wrth gwrs, rhai siopau offer awyr agored gwych ac orielau celf sy'n arddangos gwaith artistiaid talentog o Gymru.

Os oes chwant bwyd arnoch, beth am fwynhau bwyd a diod lleol, sydd wedi ennill gwobrau, yn yr amrywiaeth eang o gaffis, bistros, bwytai a thafarndai.

Ymweld â Betws-y-Coed

Rhaeadr ym Metws-y-Coed
Carreg Bedd Gelert

chwedl Gelert y ci

Yn un o'r pentrefi cerrig harddaf yn Eryri, mae llwybr troed ar hyd glannau afon Glaslyn yn arwain at fedd Gelert – man gorffwyso ci ffyddlon Tywysog Cymru yn y canoloesoedd, Llywelyn Fawr.

Neu beth am fentro o dan y ddaear yng Ngwaith Copr Sygun i gerdded o amgylch yr hen waith, yn gwbl ddiogel. Dilynwch y twnelau troellog i siambrau lliwgar, gyda stalactidau a stalagmidau godidog a gwythiennau mwynau copr gydag olion o aur, arian a metelau gwerthfawr eraill.

Twristiaeth Beddgelert

  • Beddgelert

mynd ar wifren wib gyffrous

Awydd hedfan drwy'r awyr fel aderyn?

Mentrwch ar y wifren wib gyflymaf yn y byd a'r hiraf yn Ewrop yn Zip World Chwarel y Penrhyn. Neu beth am fwynhau gwylio pobl eraill yn gwibio o Fwyty Blondin, cyn mynd ar Daith Chwarel y Penrhyn ar dryc coch.

Gwefan Zip World Chwarel y Penrhyn

  • Bethesda

Yn Zip World Fforest mae'r unig reid alpaidd yn y DU lle gallwch fynd ar wib drwy'r coed am dros gilometr. Llond trol o hwyl, beth bynnag fo'r tywydd! Yma hefyd mae'r siglen enfawr uchaf a'r rhodfa rhwydi hiraf yn Ewrop..

Gwefan Zip World Fforest

  • Betws-y-Coed
Tri o bobl ar wifrau sip yn Eryri